Pwllheli – Ar y Top
by Gareth Roberts on 16 Jan 2014

Topper gweithredu Clwb Hwylio Pwllheli Sailing Club
http://www.pwllhelisailingclub.co.uk/
Mae’n bleser gan gymdeithas cychod hwylio yr ‘International Topper Class’ a Chlwb Hwylio Pwllheli gyhoeddi fod y cwmni siandler lleol, Firmhelm, yn mynd i gefnogi Y Pencampwriaethau Byd 2014.
Rhagwelir y bydd dros 700 o hwylwyr, eu hyfforddwyr a theuluoedd yn ymweld â Phwllheli ar gyfer y pencampwriaethau hyn, sy’n cael eu cynnal rhwng Awst 8fed a 15ed 2014.
Yn ôl Gareth Roberts, Rheolwr Digwyddiadau Clwb Hwylio Pwllheli, 'Pencampwriaeth Byd y Cychod Topper ydi ein prif ornest hwylio ryngwladol eleni a byddwn yn darparu Croeso Cymreig ‘Tip-Top’ i’r cystadleuwyr a’u teuluoedd. Bydd yr hwylwyr yn rasio ar un o foroedd hwylio gorau’r ynysoedd hyn, tra bydd cyfle i’r teuluoedd ymweld ag atyniadau Llyn ac Eryri a blasu peth o dreftadaeth a diwylliant unigryw Cymru.'
Dywed Jane Butterworth, o gwmni Firmhelm Cyf, 'Mae Chloe, ein merch, wedi bod yn hwylio cwch Topper mewn cystadleuthau ers pedair blynedd ac yn aelod o sgwad Cenedlaethol Canolradd y RYA a Sgwad Cenedlaethol Cymru. Mae hi’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld cynrychiolwyr yr holl wledydd yn dod i gystadlu ar ein stepen drws ym Mhencampwriaeth Dosbarth Rhyngwladol y Cychod Topper 2014 ac mae hi’n awyddus i wneud yn dda ei hunan ar y dwr lleol yn ystod ei blwyddyn olaf yn y Dosbarth
Pwllheli Sailing Club
If you want to link to this article then please use this URL: www.sail-world.com/118412

